Ffynhonnell y llun,Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Colli wnaeth Cymru o 3-1 yn erbyn Norwy yng Nghynghrair y Cenhedloedd

Gan

Gwen Aeron

BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd9 munud yn ôl

Colli wnaeth Cymru oddi cartref yn erbyn Norwy nos Sadwrn yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Y sgôr terfynol oedd Norwy 3-1 Cymru.

Ar ôl hanner cyntaf di-sgôr yn Oslo, methodd tîm Craig Bellamy â manteisio ar gyfnodau cadarn o chwarae wrth i'r tîm cartref fynd ymlaen i gipio'r fuddugoliaeth.

Sgoriodd Antonio Nusa ac Andreas Schjelderup i Norwy yn yr ail hanner cyn i David Brooks leihau'r bwlch i Gymru a gwneud y sgôr yn 2-1. Ond ychwanegodd Erling Haaland drydedd gôl Norwy o gic o'r smotyn yn hwyr yn y gêm.

Ffynhonnell y llun,Getty Images

Roedd Cymru wedi gwneud dechrau addawol i'r gêm ac wedi llwyddo i gyfyngu ar ddylanwad rhai o sêr mwyaf Norwy, gan gynnwys Erling Haaland, am gyfnodau helaeth o'r hanner cyntaf.

Dan James ddaeth agosaf at sgorio i Gymru cyn yr egwyl, ond llwyddodd golwr Norwy, Egil Selvik i'w atal.

Er i Norwy fygwth gyda chiciau cornel a chiciau rhydd, roedd amddiffyn Cymru'n gadarn wrth i'r sgôr aros yn ddi-sgôr cyn yr egwyl.

Dechreuodd yr ail hanner heb unrhyw newidiadau gan y ddau dîm.

Daeth y gôl gyntaf wedi 59 munud wrth i Antonio Nusa roi Norwy ar y blaen.

Yna wedi 68 munud, fe ychwanegodd Andreas Schjelderup ail gôl i Norwy. Cafodd y gôl ei gwirio gan VAR cyn cael ei chaniatáu.

Gadawodd Neco Williams y cae wedi anaf yn ddiweddarach yn yr ail hanner.

Cafodd Cymru gyfleoedd i leihau'r bwlch, gyda Connor Roberts a Rubin Colwill yn dod o hyd i le yn y cwrt cosbi, ond llwyddodd golwr Norwy i arbed eu hergydion.

Llwyddodd David Brooks i daro'r rhwyd wedi 83 munud i wneud hi'n 2-1.

Yn y munudau olaf, cafodd Harry Wilson a Connor Roberts gardiau melyn wrth i Norwy ennill cic gosb.

Camodd Erling Haaland ymlaen i sgorio o'r smotyn a sicrhau buddugoliaeth o 3-1 i'r tîm cartref.

Ffynhonnell y llun,Getty Images

Gallai aros yn Adran A helpu Cymru i gyrraedd Euro 2028.

Bydd yna 12 grŵp yn y rowndiau rhagbrofol, a bydd y prif ddetholion yn cael eu dewis ar sail safleoedd y timau yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae'r golled yn golygu bod Cymru bellach ar waelod eu grŵp, ac nad oes ganddyn nhw gyfle mwyach o orffen yn ddigon uchel i sicrhau statws prif ddetholyn ar gyfer rowndiau rhagbrofol Euro 2028.

Oherwydd hynny does dim modd iddyn nhw osgoi bod mewn grŵp gyda rhai o gewri Ewrop - timau fel Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal a'r Iseldiroedd.

Gan fod Cymru yn un o'r gwledydd fydd yn cynnal Euro 2028 ar y cyd gyda Lloegr, Yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon - mae ganddyn nhw siawns gwell na'r arfer o gyrraedd y rowndiau terfynol beth bynnag.

Mae 'na ddau le wrth gefn yn cael eu cadw i'r gwledydd sy'n cynnal y gystadleuaeth rhag ofn iddyn nhw fethu â chyrraedd drwy'r rowndiau rhagbrofol.

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig