Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd8 awr yn ôl

Mae ffermwr a ddefnyddiodd ei dractor i symud cerbyd cymydog a'i ddifrodi, wedi cael ei ddedfrydu.

Clywodd llys bod Ceredin Jones, 53 o Lanarth yng Ngheredigion, wedi defnyddio ei dractor Massey Ferguson i godi a symud tryc Anwen Hughes ar hyd lôn wledig ym mis Awst y llynedd.

Roedd wedi achosi gwerth £5,000 o ddifrod i'r cerbyd, clywodd Llys Ynadon Aberystwyth.

Clywodd y llys hefyd bod y lôn yn arwain at fferm Ms Hughes, ond bod gan Jones hawl i'w defnyddio er mwyn cyrraedd ei dir ei hun.

Wrth ddedfrydu ym mis Medi eleni, gosododd ynadon orchymyn yn atal Jones rhag defnyddio'r lôn dan sylw, a bydd rhaid talu costau o £800.

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.