Gan

Gwen Aeron

BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd23 munud yn ôl

Mae dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yng Nghaergybi yn ystod oriau mân bore Sadwrn.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi dechrau ymchwiliad ar ôl i'r dyn gael ei ddarganfod yn farw mewn fflat yn Llys Watling, ar Ffordd Llundain.

Cafodd yr heddlu eu hysbysu gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru am 02:42.

Er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys, cafodd y dyn ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle.

Mae dyn lleol wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ditectif Richard Sidney fod yr heddlu'n "deall y bydd y digwyddiad yn peri pryder i'r gymuned leol."

Ychwanegodd y bydd mwy o swyddogion yn yr ardal heddiw wrth i'r ymchwiliad barhau, gan gynnwys ymholiadau o ddrws i ddrws.

Yn gynharach, dywedodd Heddlu Gogledd Cymru nad oes "unrhyw risg parhaus i'r cyhoedd."

Mae'r heddlu'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig