Gan
Rhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
ac
Alun Gaffey
BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd10 munud yn ôl
Roedd 'na gyffro ym Mhenllyn penwythnos yma gyda Chlwb Pêl-droed Llanuwchllyn yn croesawu'r Bala i Gae Llan. Roedd yr amodau yn heriol wrth iStorm Boelorwygo trwy Cymru - ond parhau wnaeth y gêm!
Dyma'r tro cyntaf i'r clybiau wynebu ei gilydd mewn gêm gystadleuol ers blynyddoedd, gyda'r ddau bellach yn chwarae yn yr un adran, y Cymru North - ail haen strwythur pêl-droed Cymru.
Disgynnodd Y Bala o'r Cymru Prem y tymor diwetha' ac fe enillodd Llanuwchllyn ddyrchafiad o'r drydedd haen, adran Ardal Gogledd-ddwyrain.
Gorffennodd y gêm yn gyfartal gyda sgôr o 3-3, ac yno ar ran Cymru Fyw oedd y ffotograffydd Geraint Thomas. Dyma rai o ddelweddau'r diwrnod.
Er gwaetha'r tywydd garw daeth pobl draw i Gae Llan yn ei dwsinau i wylio'r gêm ddarbi hon...
...gyda rhai, yn gall iawn, yn dewis gyrru yno
Y dyfarnwyr mewn hwyliau da gyda'r gêm ar fin cychwyn
Joe Vaughan o CPD Llanuwchllyn ac Okera Simmonds o CPD Bala yn aros am y chwiban gyntaf
Diod poeth i gadw'n gynnes!
Cafodd Clwb Pêl Droed Llanuwchllyn ei ffurfio yn 1957. Ymunodd y clwb â'r Gynghrair Genedlaethol Gymreig yn 1963. Bu rhaid i'r clwb gau yn 1986, ond fe wnaethant ailffurfio yn 1989
Mae pêl droed 'ma yn fusnes difrifol!
Y glaw yn poeni dim ar rai!
Cefnogwyr yn (ceisio) mochel dan goeden...
...tra bu eilyddion a rheolwyr Llan yn mochel yn ydugout.
Roedd 'na dipyn o ddrama ar y cae wrth i un o chwaraewyr y Bala dderbyn cerdyn coch am drosedd go ddifrifol...
...a llygaid y cefnogwyr wedi'u gludo i'r cyffro
Chwaraewyr y dyfodol yn gwylio!
Cefnogwr ifanc yn cael trafferth gydag ymbarèl!
Will Owen yn rhedeg lawr yr asgell chwith
"'Mai heddiw?"
Chwaraewyr Llanuwchllyn yn gorfoleddu ar ôl sgorio
Dathliadau lu yn y glaw
Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
Breichled aur oedd mewn cae yn Llanuwchllyn wedi'i datgan yn drysor
- Cyhoeddwyd10 Medi
Lluniau: Cefnogwyr Caernarfon a Fflint
- Cyhoeddwyd13 Ebrill