Ffynhonnell y llun,Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r problemau gyda thechnoleg cwmni Microsoft yn cael effaith ar wasanaethau cyfathrebu ar draws y wlad

Gan

Nia Tudur

BBC Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd2 funud yn ôl

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn cadw golwg ar effaith problemau cwmni technoleg Microsoft ar eu gwasanaethau, wrth i nifer o sefydliadau a chyrff yng Nghymru addasu eu systemau cyfathrebu yn sgil y trafferthion.

Daeth i'r amlwg fore Gwener bod yna broblemau technegol byd-eang sydd yn effeithio ar ddegau ar filoedd o ddefnyddwyr.

Mae'r problemau'n effeithio ar wasanaethau Teams, Outlook a'r feddalwedd deallusrwydd artiffisial Copilot mewn degau o wledydd.

Mae Microsoft yn dweud mai gormod o bwysau ar eu rhwydwaith sydd wedi achosi'r problemau, ac er bod yna "arwyddion cynnar bod y sefyllfa'n sefydlogi", mae'r cwmni'n dweud nad ydi gwasanaethau wedi "dychwelyd i lefelau arferol hyd yma".

Pwy sydd wedi eu heffeithio?

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad eu bod yn "monitro'r effaith ar wasanaethau'r Llywodraeth ac yn defnyddio trefniadau wrth gefn yn ôl yr angen".

Ymysg eraill sydd wedi eu heffeithio, mae Heddlu De Cymru yn dweud eu bod yn cael trafferthion derbyn adroddiadau drwy eu ffurflenni ar-lein arferol.

Maen nhw'n gofyn i bobl gysylltu â nhw gyda materion sydd ddim yn rhai brys drwy'r system ffôn 101.

Mae gwasanaeth argyfwng 999 yn gweithio fel arfer.

Mae cynghorau, gan gynnwys Cyngor Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, Abertawe a Phowys yn dweud nad ydi eu system e-bost yn gweithio, gan ei gwneud hi'n anodd derbyn negeseuon ac ymateb i ymholiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Fferyllwyr eu bod yn ymwybodol o darfu ar wasanaethau fferyllfeydd, gan gynnwys mynediad at systemau ebost y GIG.

"Mae hyn yn effeithio ar allu fferyllfeydd i gyfathrebu gyda meddygfeydd a rhai cleifion," meddai'r llefarydd.

"Byddwch yn amyneddgar gyda eich timau fferyllol heddiw, gan y gallai'r aros fod yn hirach na'r arfer, ac fe allai yna fod oedi gyda rhai presgripsiynau."

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig