Bu farw Mahammed Naim Islam ar 26 Medi yn Llyn Glaslyn
Gan
Harri Evans
BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd1 awr yn ôl
Fe wnaeth myfyriwr foddi ar ôl mynd i drafferth yn Llyn Glaslyn ger copa'r Wyddfa, mae cwest wedi clywed.
Roedd Mahammed Naim Islam, 20, wedi cerdded i'r llyn - sydd ar y Llwybr Pyg poblogaidd - ar ddydd Sadwrn, 26 Medi gyda'i frawd.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn y dŵr y diwrnod canlynol wedi ymgyrch chwilio gan Dîm Achub Mynydd Llanberis.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mercher mai boddi oedd achos y farwolaeth.
Dywedodd y crwner Kate Robertson fod y myfyriwr o Lundain wedi "mynd i drafferth yn y dŵr".
Dywedodd teulu Mahammed Naim Islam mewn teyrnged iddo ei fod yn "ddyn ifanc disglair ac eithriadol" gyda dyfodol addawol o'i flaen.
"Caiff ei gofio am y llawennydd a ddaeth i eraill, yr atgofion a greodd, a'r effaith gadarnhaol a gafodd ar y rhai a gafodd y fraint o'i nabod."
Bydd cwest llawn yn cael ei gynnal ar ddyddiad yn y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.