Gan

Annell Dyfri

Gohebydd BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd7 munud yn ôl

Roedd y cyflwynydd Owain Wyn Evans yn emosiynol wrth iddo gyrraedd Caerdydd ar ddiwedd ei daith elusennol.

Fe lwyddodd Owain i seiclo dros 400 o filltiroedd rhwng y cenhedloedd a hynny mewn ond pum niwrnod er mwyn codi arian at elusen Plant Mewn Angen.

Cyn yr her, dywedodd Owain fod y siwrne am fod yn "rili anodd i fi yn bersonol" gan ei fod wedi cael perthynas heriol ag ymarfer corff ar hyd y blynyddoedd.

Dyma'r ail sialens o'r fath iddo wneud i godi arian at elusen Plant Mewn Angen, sy'n "agos at ei galon" a hynny ar ôl iddo gwblhau sialens o chwarae drymiau am 24awr yn ôl yn 2021.

Erbyn hyn mae Owain wedi codi bron i £3m, carreg filltir bwysig iddo: "Na!Oh my gosh! O diolch yn fawr bawb. Dwi jyst methu credu e. Dwi methu cymryd e i gyd mewn. Dwi'n emosiynol iawn!"

Disgrifiad o’r llun,

Fe gychwynnodd Owain ar ei her fore Llun yn Glasgow

Wrth edrych yn ôl ar ei her, roedd dydd Iau yn amlwg yn un emosiynol iddo ag yntau wedi bod yn seiclo am ddyddiau erbyn hyn.

"Dwi mor bryderus am Y Tymbl," dywedodd wrth Gary Davies, cyflwynydd Radio 2, wrth iddo wynebu dringfa serth ar ddiwedd y pedwerydd diwrnod.

"Ers i mi gael fy ngofyn i wneud hwn, dwi wedi bod eisiau ei gwblhau yn llwyddiannus. Ond dwi wir yn poeni oherwydd mae'r darn nesaf yn ddringfa anodd iawn."

"Dwi wedi ymladd. Dwi mor flinedig. Dwi'n teimlo'n yn fregus iawn ac yn nerfus iawn ynglŷn â'r ychydig oriau nesaf."

Dywedodd fod ei "emosiynau ar draws y lle i gyd.

"Dwi wedi mynd yn ddideimlad oherwydd dwi wedi bod i fyny ac i lawr gymaint, mae wir wedi bod yn emosiynol iawn ac yn anodd iawn."

Bu sawl wyneb cyfarwydd yn dilyn Owain ar hyd y daith, gan gynnwys Carol Vorderman a H o Steps.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain wedi wynebu sawl cyfnod emosiynol yn ystod y dyddiau diwethaf

Wrth siarad â BBC Cymru 'chydig ddyddiau wedi iddo gychwyn, dywedodd Owain fod yr her yma'n golygu mwy iddo oherwydd y cyfnodau tywyll a brofodd yn ystod ei blentyndod a arweiniodd iddo gael perthynas heriol ag ymarfer corff.

"Nes i fyth mwynhau ymarfer corff yn yr ysgol achos y bwlio ag ati.

"Ma' hwnna'n stico rownd trwy fy mywyd, a dim ond nawr fi'n teimlo'n fwy cyfforddus fel dyn 42 oed,somae' wedi cymryd sbel ond y sialens yma sydd wedi helpu fi gyrraedd y pwynt 'ma.

"Bydd e bendant yn emosiynol iawn i fi," meddai gan ddweud bydd gweld pobl ar hyd y ffordd yn uchafbwynt.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Craig Stephenson bod Owain yn "teimlo'n rhan o'n cymuned ni"

Dywedodd Craig Stephenson, sy'n aelod o Gôr Hoyw De Cymru, eu bod wedi bod yn dilyn taith Owain trwy'r wythnos.

"Ni wrth ein boddau i fod fan hyn, ni 'di bod yn dilyn Owain ar y radio trwy'r wythnos wrth iddo ddod yn agosach i Gaerdydd so pan gatho ni'r gwahoddiad i ganu, natho ni ddewis cân Bonnie Tyler," meddai.

"Mae popeth Cymreig yn dod at ei gilydd, so ma fe'n ddiwrnod hanesyddol a ni'n hapus iawn i fod fan hyn heddiw."

Dywedodd bod Owain yn "teimlo'n rhan o'n cymuned ni".

"Ni'n ffans ohono fe, so oedd e fel rhyw fath ocheermawr, a mae'n gyfle gwych i ni, ac yn baltfformn da i'r côr," meddai.

"Ni'n perfformio mewn lot o bethau cwiar hefyd so ni'n neud pwynt o wneud hynny fel rhan o'n gwerthoedd ni fel côr.

"Ni'n canu cân Bonnie Tyler 'I Need a Hero' ac wrth gwrs mae Owain yn arwr mawr, y siwrne mae wedi bod arno yr wythnos yma wedi codi dros £2m, ma fe'n arwr felly dwi'n hapus i ganu'r gân yna."

Disgrifiad o’r llun,

"Ni mor falch i fod yma i gefnogi Owain," meddai Huw Cook

Dywedodd Huw Cook, sydd hefyd yn aelod o'r côr, ei fod yn "edrych ymlaen at groesawu Owain adref".

"Mae'r awyrgylch tu allan i'r Sgwâr Canolog wedi bod yn drydanol, ni mor falch i fod yma i gefnogi Owain," meddai.

"Mae 'di bod yn wych dilyn ei daith a gweld yr angerdd sydd ganddo. Roedd yn emosiynol clywed Owain yn siarad am ei brofiad yn tyfu fyny fel bachgen hoyw a'r rhwystrau oedd yn ei wynebu gyda chwaraeon.

"Iddo fe fod y gynrychiolaeth yna ar gyfer y genhedlaeth nesaf gyda'r her yma, mae hynny'r un mor bwysig â'r arian mae wedi codi."

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Straeon perthnasol