Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andy Burnham drafodaethau ym Mrwsel gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd am gytundeb newydd

  • Cyhoeddwyd6 munud yn ôl

Mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar Andy Burnham i fod yn "ddewr" yn ei drafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn croesawu'r "geiriau cynhesach" gan Brif Weinidog y DU tuag at yr UE, ond ei fod am i Burnham fynd "ymhellach".

Mae Burnham wedi bod ym Mrwsel ar gyfer trafodaethau gydag arweinwyr gwledydd eraill yr UE ar gytundeb newydd.

Wrth ymateb i sylwadau ap Iorwerth, dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner, fod Plaid Cymru a Llafur yn ceisio "tanseilio" penderfyniad Cymru i adael yr UE.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhun ap Iorwerth wedi galw ar Andy Burnham i fynd "ymhellach" yn ei drafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd

Fe bleidleisiodd mwyafrif o etholwyr y DU a Chymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016.

Ddeng mlynedd ers y bleidlais, dywedodd ap Iorwerth ei bod yn "amlwg" bod "niwed wedi cael ei greu i economi Cymru".

Ychwanegodd ei fod am weld Andy Burnham yn ceisio ailymuno â'r Farchnad Sengl a'r Undeb Tollau "fel lleiafswm", er mwyn "sicrhau bod y berthynas yna gyda'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio dros economi Cymru".

"Dwi'n gofyn iddo fo fod yn ddewr. Mi fydd ganddo fo gefnogaeth Llywodraeth Cymru os bydd o'n gwneud hynny."

Ffynhonnell y llun,Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner, fod Plaid Cymru a Llafur yn ceisio "tanseilio" penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd

Dywedodd arweinydd Reform UK yng Nghymru, Helen Jenner, fod pobl Cymru wedi mynegi eu safbwynt yn glir yn 2016.

"Fe wnaeth Plaid Cymru a Llafur bopeth o fewn eu gallu i rwystro dymuniad y bobl, ac o hyd heddiw maen nhw'n gweithio i danseilio'r penderfyniad wnaeth Cymru."

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanol.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol