Ffynhonnell y llun,Tafell a Tân
Disgrifiad o’r llun,

Mae bwyty yn Llangrannog wedi gorfod cau dros dro ar ôl i wyntoedd chwythu tywod ar draws blaen yr adeilad

Gan

Gwen Aeron

BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd5 munud yn ôl

Mae cyflenwad trydan i filoedd o gartrefi wedi'i adfer ar ôl i Storm Austen daro Cymru ddydd Gwener, ond mae rhybudd melyn am law mewn grym ledled y wlad ddydd Sadwrn wrth i Storm Boelo nesáu.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd rhwng 11:00 a 23:00 ddydd Sadwrn, gyda glaw trwm yn debygol o achosi llifogydd lleol ac amharu ar deithiau.

Er mai gogledd Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban sydd fwyaf tebygol o deimlo effaith Storm Boelo, gallai'r tywydd garw effeithio ar rannau o Gymru.

Mae'r rhybudd yn golygu y gallai dŵr gronni ar ffyrdd, gan wneud teithiau'n hirach, ac mae posibilrwydd y bydd gwasanaethau trenau a bysiau yn cael eu tarfu. Gallai rhai cartrefi a busnesau hefyd ddioddef llifogydd.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn cynghori pobl i wirio rhagolygon lleol a gwybodaeth am deithiau cyn cychwyn, yn ogystal â pharatoi ar gyfer y posibilrwydd o doriadau trydan.

Effaith Storm Austen

Ddydd Gwener, cafodd miloedd o gartrefi yng Nghymru eu heffeithio gan doriadau trydan wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro'r wlad.

Dywedodd yGrid Cenedlaethol,dolen allanolnos Wener fod peirianwyr wedi adfer cyflenwad trydan i fwy na 60,000 o gartrefi ers dechrau'r storm. Mae'r cwmni'n gwasanaethu de Cymru a chanolbarth a de-orllewin Lloegr.

Yn ystod dydd Gwener, roedd dros 3,000 o gartrefi heb drydan yn ne a gorllewin Cymru ar un adeg, yn ôl y Grid Cenedlaethol. Roedd problemau hefyd mewn rhannau o'r gogledd, gan gynnwys ardaloedd Beddgelert, Glyn Ceiriog, Gwespyr, y Fflint a Chilcain.

Erbyn brynhawn dydd Sadwrn, roedd 135 o gartrefi ym Mamhilad ger Pont-y-pŵl yn dal heb drydan, gyda disgwyl i'r cyflenwad gael ei adfer yn ddiweddarach yn y dydd.

Roedd nifer fechan o doriadau eraill yn parhau mewn rhannau o dde, gorllewin a gogledd Cymru, gan gynnwys Gwespyr, Sling a Llanwnda.

Roedd Storm Austen wedi arwain at rybuddion tywydd melyn am wyntoedd cryfion, gyda'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai hyrddiau o tua 45 i 55mya achosi difrod a tharfu ar deithio.

Un o ganlyniadau'r tywydd garw oedd penderfyniad trefnwyr Marathon Eryrii ganslo ras eleni, a oedd i fod i gael ei chynnal ddydd Sadwrn

Dywedodd y trefnwyr fod asesiad o'r cwrs wedi dangos nad oedd yn ddiogel, oherwydd gwyntoedd cryfion, coed ar y ffyrdd a llifogydd ar hyd y llwybrau.

Roedd y penderfyniad wedi'i wneud ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr diogelwch a chael cyngor gan wahanol ffynonellau.

Dywedodd y trefnwyr fod rhagolygon y tywydd ar gyfer dydd Sadwrn wedi gwaethygu'n sylweddol, er bod yr amodau wedi gwella rhywfaint gyda'r nos.

Y bwriad yw trosglwyddo lleoedd y rhedwyr i ras y flwyddyn nesaf.

Ffynhonnell y llun,BBC Weather Watchers/sophieprothero1997
Disgrifiad o’r llun,

Glaw trwm yn Nhinbych-y-pysgod wrth i rybudd melyn am law fod mewn grym ledled Cymru

Mae'r tywydd garw hefyd wedi effeithio ar wasanaethau trafnidiaeth.

Ddydd Gwener, rhybuddiodd Trafnidiaeth Cymru y gallai gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Amwythig gael eu canslo neu eu gohirio ar ôl i goeden ddisgyn ar y lein yn ardal Cwmbrân.

Mae rhai gwasanaethau trên wedi'u canslo neu'n wynebu oedi ddydd Sadwrn oherwydd y tywydd, a gallai Storm Boelo achosi rhagor o darfu wrth i law trwm ledaenu ar draws Cymru.

Mae Stena Line hefyd wedi canslo rhai teithiau fferi rhwng Caergybi a Dulyn.

Difrod ar hyd yr arfordir

Mae Storm Austen wedi achosi difrod mewn rhannau o arfordir Cymru.

Ym Mhorth Amlwch, mae gwaith adnewyddu hen Adeilad y Derfynfa Forol wedi'i atal dros dro ar ôl i'r storm ddifrodi trawst newydd yn y to.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn fod contractwyr yn gweithio i sicrhau bod y safle'n ddiogel, ac mae'r cyngor yn annog pobl i gadw draw o'r ardal hyd nes y rhoddir rhybudd pellach.

Mae'r gwaith adnewyddu yn rhan o raglen ehangach i adfywio Amlwch.

Yn Llangrannog, mae bwyty Tafell a Tân wedi gorfod cau dros dro ar ôl i wyntoedd chwythu llawer iawn o dywod oddi ar y traeth ac ar draws blaen yr adeilad.

Yn Aberaeron, mae giatiau llifogydd wedi'u cau, yn ôl Cyngor Ceredigion, sydd wedi cynghori pobl i fod yn ofalus wrth deithio ac i gadw draw o arfordiroedd gwyntog.

Rhybudd am lifogydd

Mae'r Swyddfa Dywydd yn disgwyl i law ledaenu ar draws y DU drwy gydol dydd Sadwrn, gan ddod â thywydd gwlyb i'r rhan fwyaf o ardaloedd.

Gallai'r glaw trwm gynyddu'r perygl o lifogydd, yn enwedig ar ffyrdd, a gallai achosi oedi i wasanaethau trafnidiaeth.

Mae'r Swyddfa Dywydd yn argymell bod pobl yn gwirio a yw eu heiddo mewn perygl o lifogydd ac yn ystyried paratoi cynllun a phecyn argyfwng os oes angen.

Er y gallai Storm Boelo barhau i ddod â gwyntoedd cryfion a glaw trwm i'r gogledd ddydd Sul, mae disgwyl i lawer o Gymru a Lloegr gael tywydd sychach ar y cyfan, er y bydd yn wyntog o hyd.

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig