Gan
Rhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd3 awr yn ôl
Mae Rhian Jones o Fetws-yn-Rhos yn hel hen offer cegin ers blynyddoedd, ac erbyn hyn mae ganddi dipyn o gasgliad.
Mae ei chasgliad wedi ennill dipyn o edmygedd, yn arbennig o fewn rhengoedd Merched y Wawr cangen Bae Colwyn, ble mae Rhian yn aelod.
Ar 7 Hydref fesiaradodd Rhian gyda Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, am ei chasgliad a beth mae'n ei olygu iddi.
Trysorau Mam
"Oeddan ni'n mynd i siopa i bob man, siopauantiquesym mhobman," dywedodd Rhian.
"Oedd Aberteifi yn le da am hyn, achos o'dd 'na siop yno efo pedwar llawr ac oddan ni yno am oriau yn sbïo ar y pethau 'ma, a mae Machynlleth hefyd yn le da am hyn.
"Mae'r casgliad i gyd wedi dechrau o'r cartref – dwi'n lwcus bod Mam 'di cadw lot o'r pethau 'ma, ac wedyn dwi 'di cymryd y diddordeb o gasglu ymlaen."
Mae Rhian hefyd wedi bod yn mynd i sioeau sy'n arbenigo yn y fath o greiriau mae hi'n ei fwynhau.
Tebot â dau big
Un eitem mae Rhian yn ei hoffi'n fawr ydy tebot efo dau big.
"Pan weles i hwn, do'n i 'rioed 'di gweld dim byd o'r fath o'r blaen", medda Rhian.
"Mae'n dod o'r Oes Fictoria, fel bod posib llenwi dwy gwpan ar y tro – er, dwi ddim yn siŵr pa mor hawdd bydda hynny chwaith efo dŵr poeth!
"Ac mae 'na rywglazeneis a blodau melyn hardd arno."
Un o'r creiriau mwyaf anghyffredin yng nghasgliad Rhian
Un arall o drysorau Rhian yw'r cwpan mwstash, sy'n fod i arbed y wefus top rhag gwlychu.
"Mae 'na fel stepen ynddi, a dwi'n meddwl be' 'da chi'n fod i neud ydi rhoi'r mwstash yn fan'na, gan yfed drwy'r twll bach, lle bod 'na ffroth yn mynd ar eich mwstash chi. Felly mae pobl yn dweud. Taid oedd berchen o ac mae'n reit neis."
Y gwpan fwstash, i gadw'r blew yn sych
Mae gan Rhian hefyd beiriant sychu gwallt sy'n dyddio o'r 1950au hwyr/1960au cynnar.
"Mae'n un gwahanol iawn, yn dod yn ei focs gwreiddiol neis, gyda gwydr," meddai.
"Dwi'n meddwl bod o'n well na be 'sa ni'n cael heddiw ac mae o'n edrych fel newydd."
Peiriant sychu gwallt sy'n rhan o gasgliad Rhian
Mae gan Rhian diniau bara Hovis, hefyd:
"Ma' rheina reit wahanol, a dwi 'di bod reit lwcus i gael nhw achos ma' nhw reit anodd i'w cael. 'Nes i gael nhw pan o'n i'n mynd rownd y sioeau."
Tins bara Rhian
Roedd Rhian yn gweithio ym myd arlwyo am dros 40 mlynedd. Hyd at y cyfnod clo roedd ganddi uned ym Metws-yn-Rhos o'r enw Popty Penrhos, gan wneud cacennau.
Mae hi wrth ei bodd gyda chwpanau a soseri china, ac yn dal i brynu nhw hyd heddiw. Mae hi hefyd yn trysori'r llestri gafodd ei Nain pan y priododd hi yn 1932.
Hen fflasgiau Thermos, sy'n addas i ddal cawl neu ddiodydd poeth
Mae'r rhan fwyaf o'r stwff y mae Rhian yn ei gasglu'n dod o'r 1950au neu 1960au. Mae hi'n hapus i ambell eitem adael y casgliad, ond mae hi hefyd yn dal i brynu eitemau, gydag ambell un â gwerth sentimental iddyn nhw.
"Mae'r hen fotel efo Dolgelley'n dangos pa mor hen ydy hi, gan bo' ni ddim yn sgwennu Dolgellau fel'na heddiw.
"Roedd gan chwaer fy Nain siop yn Nolgellau, yn gwerthu llaeth a fferins a phethau fel 'na, felly mi ges i hwnna gan fy nghyfnither."
Arwydd o oed y botel, y sillafiad 'Dolgelley'
Mae casgliad unigryw Rhian yn siŵr o ddod ag atgofion melys i rai, o'u plentyndod o chyfnod a fu. Ond mae hefyd yn tystio i ddyfeisgarwch a chrefftwaith ein cyndeidiau.
Mae Rhian yn cadw'r rhan fwya' o'r celfi mewn bocsys, ond yn arddangos ambell un
Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Poteli dŵr, inc a gwenwyn - casgliad hynod Sheila Dafis
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
'Croen gŵydd' wrth ganfod 15,000 o geiniogau Rhufeinig
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2025
Dwi'n caru casglu...moch
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024