Disgrifiad o’r llun,

Mae'r murlun ym Mharc Coffa Sgiwen

Gan

Aimee Thomas

BBC Cymru

  • Cyhoeddwyd25 munud yn ôl

Mae murlun wedi ei greu ym mhentre' Sgiwen er cof am Bonnie Tyler,a fu farw yn gynharach eleniyn 75 mlwydd oed.

Cafodd y gantores Gaynor Hopkins ei geni yn y pentre' ger Castell-nedd ac mae'r gwaith celf, gan Steve Jenkins, i'w weld ym Mharc Coffa Sgiwen.

Bu farw Bonnie Tyler, a ddaeth i enwogrwydd byd-eang gyda chaneuon fel Lost in France a Total Eclipse of the Heart, ym Mhortiwgal ym mis Gorffennaf yn dilyn salwch.

Disgrifiodd Susan Petrosillo, 61 oed, o Sgiwen, y murlun fel rhywbeth "gwych".

"Dwi'n falch iawn, iawn," meddai. "Mae'n hollol wych gweld beth maen nhw wedi'i wneud. Mae'n barc mor hyfryd hefyd.

"Roedd yn rhan mor bwysig o Sgiwen ac mae'n dal i fod."

Ychwanegodd: "Ar ddiwrnod ei hangladd, daeth yr hers drwy Sgiwen ac roedd nifer y bobl ddaeth allan i dalu eu teyrngedau yn anhygoel."

I'r rhai a aeth i'r ysgol gyda hi, fel Michael Davies, mae'r murlun yn gyfle i gofio rhywun yr oedden nhw'n ei hadnabod cyn iddi ddod yn seren ryngwladol.

"O'n i yn yr ysgol gyda hi, felly o'n i'n 'nabod hi yn eithaf da," meddai.

"Merch o Sgiwen oedd hi. Mae'n wych gweld hyn."

Ffynhonnell y llun,Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Bonnie Tyler i amlygrwydd yn y 1970au, ac roedd yn un o enwau mwyaf y byd pop yn yr 80au

Dywedodd Bob Marney, 84, fod cynnwys cyswllt i'r clwb rygbi lleol yng nghornel y murlun yn arwyddocaol.

"Cafodd ei chlyweliad cyntaf yn y clwb rygbi," meddai.

"Mae'r gwaith yn anhygoel.

"Roedd hi'n gymeriad halen y ddaear a doedd hi byth wedi anghofio ei gwreiddiau yn Sgiwen."

I'r artist Steve Jenkins, roedd portreadu Bonnie yn gywir yn dod â "chyfrifoldeb mawr".

"O'n i'n gwybod bod rhaid i fi gael hi'n hollol gywir oherwydd yr emosiynau sy'n gysylltiedig â Bonnie," meddai.

"O 'ni'n gwybod y byddai'r teulu a'r gymuned gyfan yn emosiynol iawn wrth weld y gwaith, felly roedd yn bwysig. Roeddwn ni'n teimlo lot o bwysau," meddai.

'Mor falch o ddod o Sgiwen'

Dywedodd Steve, sy'n cael ei adnabod fel 'JenksArt', fod y dyluniad wedi newid sawl tro cyn cyrraedd ei ffurf derfynol.

"Roedd goleudy'r Mwmbwls yn y cefndir yn y drafft cyntaf.

"Ond gan ei bod hi mor falch o ddod o Sgiwen, fe benderfynon ni roi Parc Sgiwen yn y cefndir."

Dywedodd fod y cymysgiad o liwiau ar wyneb Bonnie hefyd yn bwysig.

"Wrth i mi baentio, ac wrth i bobl ddod ata i, daeth yn amlwg y bydd ei cherddoriaeth yn parhau i fyw.

"Mae hynny'n cael ei gynrychioli gan ochr liwgar ei hwyneb, ac mae'r ochr ddu a gwyn yn cynrychioli'r ffaith mai darn coffa yw hwn," ychwanegodd Steve.

Mae'r murlun yn cynnwys cyfeiriad amlwg am Total Eclipse of the Heart, un o ganeuon mwyaf adnabyddus Bonnie Tyler.

Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol