Gan
Anna George
BBC Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd46 munud yn ôl
"Gesh i gwd laff. Nesh i ddod yn ffrindia' efo'r criw yn syth. Oeddan ni allan bob nos," meddai'r cyflwynydd Kevin Williams wrth BBC Cymru Fyw ar ddiwedd ail gyfres o Bar Hansh.
Bydd ffans y gyfres wedi gwylio Kevin yn gwobrwyo Tyler fel enillydd Bar Hansh yn ffeinal y gyfres ar 11 Tachwedd, ar ôl cyflawni cyfres o heriau wrth redeg bar Cymreig ar ynys Zante yng Ngwlad Groeg.
Dyma oedd swydd gyflwyno gyntaf y cyn-actor Rownd a Rownd a fu'n chwarae cymeriad Kelvin Walsh am 27 o flynyddoedd.
Fe adawodd Kevin y byd actio llynedder mwyn bod yn blymar llawn amser.
Eglurodd wrth Cymru Fyw fod dychwelyd i waith teledu lai na blwyddyn ers gadael Rownd a Rownd wedi bod yn syndod bersonol iddo:
"'Nath y peth ddod allan o nunlla. Gan bo' fi'n gweithio fel plymar fel arall, ro'n i yn gwaith un diwrnod a dyma fy ffôn yn mynd a rhywun yn cynnig gwaith cyflwyno i fi.
"O'n i'n meddwl yn siŵr mai un o'n mêts i oedd yn prancio fi," chwarddodd.
Criw Bar Hansh yn gwirioni bod 'Kelvin Rownd a Rownd' yn cyflwyno
Yn ôl Kevin roedd cyflwyno'r gyfres "yn brofiad briliant" ac mae'n gobeithio bod cyfres arall ar y gweill.
"Do'n i erioed wedi clywed am Hansh na Bar Hansh nes cael cynnig y swydd," meddai.
"Esh i mewn i'r peth yn ddall; pan gesh i gynnig y job o'n i'n meddwl mai 'wbath yn Gaerdydd oedd o.
"Wedyn nesh i ddalld mai yn Zante oedd o, ac o'n i'n meddwl - bwyd diod, cwrw am ddim a ffleits - awê!"
Ar ei noson gyntaf yn Zante fe wnaeth ychydig o waith cartref cyn tair wythnos o ffilmio.
"Nesh i wylio 'chydig o'r gyfres ddwytha noson gynta' yna; oeddan nhw'n rhegi a bob dim a nesh i feddwl 'diolch byth, ga i fod fi fy hun 'wan!'."
Kevin gyda chriw Bar Hansh yn Zante
Mae ambell i glip fideo sy'n hyrwyddo'r gyfres sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc yn dangos ymateb y cystadleuwyr a gafodd gryn sioc wrth ddeall mai 'Kelvin Rownd a Rownd' oedd y cyflwynydd.
Mae cael ei adnabod fel 'Kelvin Rownd a Rownd' yn rhywbeth mae Kevin wedi arfer ag o erbyn hyn, ac mae'n chwerthin wrth feddwl am ei gyfarfyddiad cyntaf â Trystan, un o griw Bar Hansh, yn y maes awyr.
"Nath Luke o'r tîm cynhyrchu ddweud wrtha i, 'Gwranda - 'dan ni wedi rhoi chdi i ista yn un o seddi cefn y ffleit fel bod y criw ddim ynsussiorwbath allan'.
"Felly nesh i weld y criw yn yrairportar ôl glanio a nath Trystan droi rownd yn deud 'Be mae o'n dda 'ma? Gawn ni fynd ato fo i dynnu llun?!'."
Kevin yn ystod ei gyfnod yn fflimio Bar Hansh yn Zante
'Os 'dach chi'n actio ewch i ddysgutrade'
Ar ôl mwynhau'r gwaith cyflwyno, ydy Kevin yn rhagweld y bydd yn dychwelyd i weithio'n y diwydiant teledu?
"I fod yn onast o'n i 'di 'neud Rownd a Rownd am mor hir, do'n i ddim yn gweld fy hun yn 'neud dim arall. Am bo' fi'n gweithio fel arall eniwe fel plymar, mae'n job cael amsar.
"Ro'n i ar gontract efo Rownd a Rownd ar ben bod yn blymar - roedd yna adegau pan oedd yn rhaid i fi drop tŵls pan o'n i 'nghanol 'neud wbath fel gosod boilar.
"'Swn i'n derbyn gwaith tymor byr fel hwn eto ond 'swn i ddim yn 'neud 'wbath llawn amser fel Rownd a Rownd, os na 'swn i'n cael cynnig mynd i Hollywood."
Ac mae'n dweud bod hyfforddi mewn maes arall yn gam doeth i unrhyw actor mewn byd sy'n ansicr o waith.
"S'neb yn gwybod be' sy' rownd y gongl nagoes. Ers i fi orffan Rownd a Rownd 'sa gynno fi ddimtradedwi'm yn gwybod be' 'swn i'n 'neud.
"Does 'na ddim llawer o waith actio o gwmpas felly ei di byth allan o waith os ti efotrade. Os 'dach chi'n actio, ewch i ddysgutrade, deffinyt!"
Kevin a'i feibion Tomos a Harri
Ar ôl diwrnod caled o waith, mae Kevin yn dychwelyd adref i'w gartref yn Nyffryn Nantlle at ei bartner a'u meibion, Tomos a Harri, sy'n 14 ac 11 oed.
Er i Kevin ddechrau ei yrfa actio pan oedd ond yn 10 oed, mae ei feibion yn annhebygol o ddilyn ôl-troed eu tad yn ôl Kevin.
"Mae o i fyny iddyn nhw'n llwyr ond sgynnon nhw ddiminteresthyd yma. Ffwtbol ydy bob dim iddyn nhw ar hyn o bryd," meddai.
'Mae Buddug yn haeddu gymaint o barch fel actor'
Un person mae'n ei fethu'n fawr ers rhoi gorau i chwarae cymeriad y chwedlonol Kelvin Walsh, yw'r actores Buddug Povey sy'n chwarae rhan Kay Walsh - mam Kelvin.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae gwylwyr Rownd a Rownd wedi gweld cymeriad Kay yn datblygu problem yfed wrth alaru am ei mab.
Ac mae Kevin yn llawn edmygedd o ddawn actio Buddug, a dderbyniodd enwebiadBAFTA Cymru yn ddiweddar.
"Mae Buddug yn briliant. Achos bo' fi wedi gweithio efo hi ar hyd y blynyddoedd do'n i ddim yn sylwi pa mor dda oedd hi. Mae hi'n haeddu gymaint o barch fel actores.
"Os o'n i'n 'neud rwbath ynwrongo'n i'n cael row ganddi, tu allan i gwaith hefyd - oedd hi fatha mam go iawn i fi."
Kevin a Buddug Povey
Pan fydd Kevin yn gweithio'n Sir Fôn bydd yn galw i weld ei hen gydweithwyr ar set Rownd a Rownd ym Mhorthaethwy'n aml.
"Dwi'm yn colli gwaith ond dwi'n colli'rchata'r hwyl," meddai.
"Do'n i ddim yn gwatsiad Rownd a Rownd pan o'n i arno fo - newydd ddechra' gwatsiad Rownd a Rownd ydw i 'wan ers i fi orffan.
"Be' sy'n rhyfadd ydi bod enw Kelvin yn dod i fyny o hyd ar hyn o bryd, efo Kay yn stryglo a storis 'Dolig.
"Mae'n teimlo fel dwi dal yna - Kelvin hyn, Kelvin llall," chwarddodd.
Mae Kevin yn ddiolchgar iawn i ffans Rownd a Rownd am eu cefnogaeth
Beth yw argraffiadau'r cyn-actor sydd newydd droi'n wyliwr ei hun o'r ddrama boblogaidd?
"Deffinyt dwi'n joio gwatsiad o - dwi mewn i'r stori 'wan, yn lle bo' fi'n gorfod gwatsiad fi fy hun arno fo.
"O'n i'n casáu sylw a phobl yn dod ata fi. O'n i'n cael 'Chdi di Kelvin Rownd a Rownd' o hyd a 'swn i'n deud 'Naci ti 'di cael y boiwrongdwi'n meddwl sdi'."
Er hynny, mae tu hwnt o ddiolchgar i'r gefnogaeth a'r ymateb a dderbyniodd pan fu farw Kelvin Walsh.
"O'n i 'di dychryn pa mor boblogaidd oedd Kelvin i bobl. Roedd pawb yn cysylltu efo fi am gyfweliad ar ôl i Kelvin farw - Radio Cymru, Golwg... ac oedd yna filoedd ocommentsar social media.
"Roedd yr ymateb ynnyts. Roedd hynna'n sbesial iawn," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw arFacebook,dolen allanol,X,dolen allanol,Instagram,dolen allanolneuTikTok,dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon icymrufyw@bbc.co.uk,dolen allanolneu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr apam y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
Rownd a Rownd: Diwedd cyfnod i Kelvin Walsh a'r actor Kevin Williams
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2025
Cyfres Amdani ar S4C Clic: 'Roedd o'n gyfnod gwerth chweil'
- Cyhoeddwyd1 Mai